Cynllun Llysgenhadon Sir Ddinbych

Cynllun Llysgennad Sir Ddinbych

Darganfod nodweddion arbennig Sir Ddinbych

Cynllun Llysgennad Sir Ddinbych

Darganfod nodweddion arbennig Sir Ddinbych

Denbighshire Tourism Ambassador logo

Beth yw’r
Cynllun Llysgenhadon?

Mae Cwrs Llysgennad Sir Ddinbych yn darparu cyfle hyfforddiant ar-lein i ddysgu a gwella eich gwybodaeth am nodweddion unigryw’r sir i egluro beth sy’n gwneud Sir Ddinbych yn sir arbennig.

Pan fyddwch chi’n dod yn Llysgennad Sir Ddinbych byddwch yn chwarae rôl bwysig yn cyfoethogi profiad cyffredinol ymwelwyr.

Eisiau gwybod mwy am Sir Ddinbych?

Dewch i fod yn Llysgennad Sir Ddinbych

Profiadau llysgennad

Eisiau gwybod mwy am Sir Ddinbych?

Dewch i fod yn Llysgennad Sir Ddinbych

Profiadau llysgennad

““Dewisais ddod yn Lysgennad gan ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth i chi, mae bob amser yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth pan rydych chi’n tywys pobl ar deithiau cerdded ac yn mynd â phobl i gerdded mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r cwrs am ddim sydd bob amser yn helpu. A gallwch chi ei wneud gartref dros gwpl o nosweithiau yr wythnos, felly mae’n wych. Does dim fath beth a gormod o wybodaeth fel maen nhw’n dweud, mae bob amser yn braf dysgu rhywbeth newydd.”
Mind Dyffryn Clwyd

Gwyliwch. Dysgwch.
Byddwch yn Lysgennad Sir Ddinbych

Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Sir Ddinbych mewn dim.

Gwyliwch. Dysgwch.
Byddwch yn Lysgennad Sir Ddinbych

Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Sir Ddinbych mewn dim.

Beth yw'r manteision o fod yn Lysgennad?

  • I Chi

  • Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal

  • Darparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid

  • Meithrin sgiliau newydd i’w hychwanegu at eich CV

  • Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein rhanbarth hardd

  • Rhannu syniadau ac arfer orau â phobl debyg i chi

  • Cyfle i fod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb

  • I’ch Busnes

  • Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim

  • Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus

  • Cymorth â chymell a chadw staff

  • Helpu i wella ffyddlondeb a nifer yr ymwelwyr sy’n galw eto

  • Helpu i roi hwb i economi Sir Ddinbych

  • Darparu profiad unigryw a dilys i ymwelwyr

  • Helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, hyd eu cyfnod yma a'u gwariant

  • Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes

  • Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan

Diweddaraf o’r blog

Cyfle i ddysgu mwy am Gymru yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru

Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno.

Y Llysgenhadon yn eu geiriau eu hunain

Mae cynllun Llysgennad Cymru yn annog adborth. Dyma rai o’r sylwadau gwych ’rydym wedi’u derbyn.

Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cefnogi Wythnos Dwristiaeth Cymru

Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad